Mae gennym bedwar theatr wych yn Ne-ddwyrain Cymru: Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, The Blake Theatre, Trefynwy, Theatr Bwrdeistref, Y Fenni a Glan yr Afon, Casnewydd.
Rydym yn gweithio gyda’r holl sefydliadau celfyddydau, diwylliant ac etifeddiaeth yn ein rhanbarth , ac ynghyd â’r theatrau, rydym wedi casglu rhestr o uchafbwyntiau theatr, perfformiad a cherddoriaeth sy’n wych ar gyfer ysgolion, nid yn unig ar gyfer cefnogi darpariaeth y cwricwlwm y celfyddydau mynegiannol, ond hefyd ar gyfer darpariaethau trawsgwricwlaidd ac allgyrsiol, megis clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Gwnewch gais am grant Ewch i Weld o hyd at £1000 i fynd â grŵp ysgol.
Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19 mae’r holl theatrau wedi cau. Gwyliwch y gofod hwn i gael manylion am theatr a pherfformio y gellir eu profi ar-lein ac aildrefnu dyddiadau.