Cyflwyniad i bodlediadau

08th Jul 2020 11:00 am Ar-line

Register for this Event

Ymunwch ag Aled Jones wrth iddo eich cyflwyno i bodlediadau a’ch paratoi ar gyfer recordio un eich hun.

Bydd y dosbarth meistr yn datgelu rhai o gyfrinachau creu a rhannu podlediadau. Bydd yn cynnwys sut i gynllunio eich podlediad a chael cynnwys addas; yr offer a’r meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer recordio a golygu eich podlediad; pwysigrwydd golygu sain eich podlediad; cyngor a thechnegau i gael y gorau o’ch podlediad; ac adeiladu parhad, marchnata a hyrwyddo eich podlediad.

Mae’r dosbarth meistr yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn podlediadau, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y dosbarth meistr byw.

Bydd y Dosbarth Meistr yma yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

Register for this Event