Celf Gomig


Celf Gomig.
Sut mae celf gomig yn helpu sgiliau llythrenedd y disgybl.
Bydd y sesiwn hyfforddi un-diwrnod hon yn archwilio’r manteision o ddefnyddio celf gomig yn y dosbarth er mwyn denu disgyblion i wella eu sgiliau darlunio a llythrenedd drwy’r celfyddydau mynegiannol.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr…
- wedi cael profiad o greu cymeriad comig trawiadol.
- yn medru cyfleu emosiwn drwy ddarlunio drwy ystum ar wyneb.
- wedi datblygu sgiliau i ddarlunio ffigurau mewn ystumiau mynegiannol a dynamig.
- wedi datblygu hyder i arbrofi gyda gwahanol arddulliau o ddarlunio comig.
Gwybodaeth am yr Hwyluswyr
Mae gan Paul Warren ddoethuriaeth addysgol mewn Celf Gomig ar gyfer gwella llythrenedd.
Mae Joshua Morgan yn ddarlunydd, awdur, ac athro cynradd cymwysedig.
Pris: £90
Dyddiad:
Canolfan: Glan yr Afon, Casnewydd