Mae ein cyllid ar gau hyd y gellir rhagweld, darllenwch ein rhestr o grantiau sydd ar gael i ysgolion yma.
Mae gan Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De Ddwyrain Cymru ddwy ffrwd cyllido sydd wedi’u creu i gefnogi gweithgarwch celfyddydau mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen.
Mae’r cronfeydd ar gael i aelodau’r Rhwydwaith fel a ganlyn:
Gall aelodau unigol wneud cais am hyd at £1,000 er mwyn ymchwilio a datblygu prosiect celfyddydau i’w ddefnyddio mewn ysgol. Rhaid i’r cais prosiect ddangos yn glir sut caiff yr arian ei wario o ran deunyddiau ac amser. Rhaid i artistiaid neu ddangos y byddant yn cysylltu ag athrawon/arbenigwyr addysg wrth ddatblygu eu prosiect. Rhaid i athrawon ddangos y byddant yn cysylltu ag artistiaid neu weithwyr diwylliannol proffesiynol wrth ddatblygu eu prosiect.
Amod cael yr arian yw y bydd y prosiectau’n cael eu cyhoeddi ar y wefan hon a’r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb.
Gall aelodau unigol y rhwydwaith wneud cais am hyd at £100 i dalu costau ymweliad diwylliannol neu addysgol i rywle y tu allan i’r rhanbarth. Rhaid i’r ymweliad fod yn berthnasol i ddatblygiad proffesiynol parhaus yr ymgeisydd, neu gylch gwaith y rhwydwaith (i ganfod a lledaenu arfer gorau mewn prosiectau celfyddydau mewn addysg). Gallai ymweliadau fod i arddangosfeydd, cynyrchiadau theatr, ysgolion neu i gwrdd â damcaniaethwyr addysg.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus ysgrifennu blog byr am eu hymweliad i’w gyhoeddi ar y Parth Dysgu Creadigol – Hwb. Gwneir hyn i gefnogi nod y rhwydwaith o feithrin diwylliant o rannu gwybodaeth.
Bydd y blog yn amlinellu: