
Defnyddio treftadaeth leol a chasgliadau amgueddfa ar gyfer dysgu.
Mae’r rhaglen hon o hyfforddiant Celfyddydau Mynegiannol ar gyfer athrawon, artistiaid ac addysgwyr diwylliannol yn cefnogi’r sector addysg a’r celfyddydau i hwyluso’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae’r holl gyrsiau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno gan ymarferwyr celf arbenigol sydd â hanes profedig o hwyluso dysgu proffesiynol effeithiol. Mae pob hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei asesu o ran risg yn unol â chanllawiau diweddaraf Covid-19.
Gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, nod y rhaglen yw datblygu sgiliau, magu hyder a chreu syniadau i athrawon ledled Cymru ddylunio prosiectau Celfyddydau Mynegiannol deniadol sy’n cefnogi diwygio’r cwricwlwm.
Defnyddio treftadaeth leol a chasgliadau amgueddfa ar gyfer dysgu.
Sut mae celf gomig yn helpu sgiliau llythrenedd y disgybl.
Datblygu hyder i arwain gweithgareddau dawns hwyliog a chreadigol.
Cyfuno gelf awyr agored a meistrolaeth ddigidol yn effeithiol.
Archwilio cofebau a chelf gyhoeddus drwy brosiectau celf.
Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn croesawu athrawon, artistiaid ac addysgwyr diwylliannol, a mudiadau i ymaelodi. Mae’r aelodau yn derbyn cylchlythyrau rheolaidd gyda gwybodaeth am gyfleoedd datblygu proffesiynol, adnoddau dysgu arloesol, wedi eu teilwra, arian i ysgolion ar gyfer Celfyddydau Mynegiannol, ac astudiaethau achos sy’n arddangos arfer da.