
Ccreu Comic: Cymeriad ac Ystum
Mae’r cwrs yma, sydd wedi’i anelu at athrawon CA2 ac athrawon ysgol uwchradd, yn dysgu sut i ddefnyddio darlunio i gyfleu emosiynau a chymeriad gyda golwg ar wneud comics. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen ar athrawon a disgyblion i ddarlunio cymeriadau ag amrywiaeth o emosiynau ac ystumiau. Yn ystod yr hyfforddiant, bydd trafodaeth hefyd ar y rhesymeg y tu ôl i ddefnyddio comics mewn addysg a gwneud hynny yng ngoleuni’r Cwricwlwm Newydd.
Gwybodaeth am yr Hwyluswyr
Pris: £100
Dyddiad:
Canolfan: Pontardawe Arts Centre