Fframweithiau Dysgu Safle-benodol

Ymhlith aelodau’r Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg: De-ddwyrain Cymru mae ysgolion, artistiaid a sefydliadau diwylliannol. Mae Fframweithiau Dysgu Safle-benodol yn gwrs sy’n dwyn ynghyd y tri grŵp hwn o aelodau ac sydd wedi’i strwythuro i gefnogi Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol sy’n rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’r gweithgareddau ymarferol o ran y celfyddydau mynegiadol, sy’n rhan o gynnwys y cwrs, yn drawsddisgyblaethol ac yn cyflwyno syniadau ar gyfer ymateb i dreftadaeth neu dirwedd leol drwy’r celfyddydau.

Yn y lle cyntaf, roedd y sesiwn yn archwilio beth yw celfyddyd safle-benodol, ac yn rhoi ychydig o enghreifftiau o’r math hwn o arfer. Aeth ymlaen i ddehongli’r hyn y gallai cyfres o gelf safle-benodol ei olygu i wahanol bobl.

Sut mae artistiaid yn dewis y lleoedd sy’n ysbrydoli eu gwaith? Fe wnaethon ni drafod sut mae gan bob person ysbrydoliaeth, atgofion, profiadau a gwybodaeth bersonol y maen nhw’n tynnu arnyn nhw wrth brofi lle. Mae lleoedd, fel pobl, yn unigryw o ran eu cymeriad a’u personoliaeth, ac yn newid dros amser. Roedd ein trafodaethau’n ystyried ystyr lle, neu safle, a allai fod yn adeilad, tirwedd, parc, dinas neu le treftadaeth, sydd â hanes unigryw i’w adrodd. Mae hefyd gan y safle hwnnw ddyfodol unigryw, sydd hefyd yn bwysig ei drafod.

Dyma rai cwestiynau a allai eich helpu i ddechrau meddwl am eich amgylchedd:

Beth ydy’r lle hwn yn ei olygu i mi? Sut le oedd hi yn y gorffennol?
Pwy oedd yma, a beth oedden nhw’n ei wneud? Sut olwg fydd ar y lle hwn yn y dyfodol?

Fe wnaeth Bethan Ryland, sy’n addysgwr drama a dawns, arwain sesiwn ar ddefnyddio’r corff a symudiadau i adrodd hanes y safle a hanes ein gilydd. Fe wnaethon ni astudio cyfres o gerfluniau wedi’u gosod o amgylch Parc Bedwellte a, drwy ddefnyddio’r hyn y gwnaethon ni ei ddysgu am hanesion Tŷ Bedwellte o’r arysgrifau a’r paneli dehongli, fe wnaethon ni ddyfeisio darnau o theatr ddelwedd.

Mae theatr ddelwedd yn wahanol i theatr draddodiadol oherwydd nid yw’n cynnwys symud na lleferydd; yn lle hynny, mae perfformwyr yn creu delwedd lonydd sy’n portreadu emosiwn penodol yr olygfa, cipolwg ar hanes sy’n caniatáu i’r gynulleidfa ddychmygu sut y datblygodd y sefyllfa ac i ble y gallai arwain.

Fe wnaeth Kate Verity, sy’n artist cyfranogol, ofyn i ni ddehongli’r safle o ran yr hyn ydyw ar hyn o bryd, gan bortreadu eiliad benodol mewn amser, yn y fan a’r lle. Cafodd ffenestri eu rhoi i ni er mwyn ein galluogi ni i ystyried ciplun o’r olygfa, ac fe greon ni lyfrau braslunio i dynnu llun o’r golygfeydd y daethon ni ar eu traws. Yna, fe wnaethon ni rannu’n barau i archwilio parc Bedwellte, ac fe gawson ni ein hannog i dynnu lluniau a ffotograffio’r pethau o amgylch y parc y gwnaethon ni sylwi arnyn nhw, neu a dynnodd ein sylw ni. Byddwn ni’n rhannu’r rhain nes ymlaen. Roedd disgwyl i ni hefyd gasglu deunyddiau naturiol wrth ddod ar eu traws – dail, hadau, plu, rhisgl, mwsogl ac ati. Yna, ar ôl dod ar draws y deunyddiau, fe gawson nhw eu defnyddio i greu darn o gelf tir yn null Andy Goldsworthy, gan olrhain gwreiddiau coeden, ac felly greu gwaith celf sy’n ymateb i’r dirwedd naturiol.

Arweiniodd Ruth, Cydlynydd y Rhwydwaith, drafodaeth ynghylch dysgu drwy broses greadigol a sut mae modd i ni sicrhau dysgu da iawn drwy ganiatáu i brosiect celfyddyd fynegiadol ddilys ddigwydd. Fe wnaethon ni hefyd drafod cyfleoedd syml a naturiol i lythrennedd, lleferydd, rhifedd a digidol ddod yn rhan o’r gweithgaredd. Fe wnaethon ni hefyd drafod sut mae dylunio prosiectau yn y modd hwn, a defnyddio lleoedd lleol i’n hysbrydoli ni, yn arwain yn naturiol at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm newydd.

Lluniau: Matt Cook ar gyfer y Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg

Dangoswch fwy..