Enw: Darren Latham
Teitl Swydd: Athro celf ac animeiddiwr
Sefydliad: Blue Monkey Animation
Disgyblaeth: Celf ddigidol
Dolen i Wefan: www.bluemonkeyanimation.co.uk
Mae Darren yn animeiddiwr llawrydd, sy’n gweithio mewn ysgolion drwy ei gwmni, Blue Monkey Animation, er mwyn helpu i greu cyfleoedd dysgu cyffrous a gwaith arloesol drwy gyfrwng animeiddio.
Mae’n gweithio mewn cymysgedd o fformatau 2D a 3D, gan gyflwyno ystod o raglenni gwahanol er mwyn hyfforddi athrawon a disgyblion i ddatblygu sgiliau newydd gan weithio gyda pha bynnag adnoddau y mae’r ysgol yn gallu eu defnyddio. Mae wedi gweithio gyda phlant o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 13, gan ddod ag animeiddio i’r ystafell ddosbarth a helpu i ysbrydoli athrawon a disgyblion ar bob cam.
Mae Darren yn defnyddio cyfoeth o brofiad fel athro ac ymarferwr creadigol, gan gynnwys dros 20 mlynedd o brofiad yn addysgu celf a dylunio ar lefel ysgol uwchradd, ac yn gweithio gyda Phrosiect Ysgolion Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae ei waith yn helpu ysgolion i ymdrin â sawl agwedd ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd tra hefyd yn mynd i’r afael â meysydd allweddol llythrennedd a rhifedd. Mae’n frwdfrydig am y ffordd y mae defnyddio animeiddio yn yr ystafell ddosbarth yn ennyn diddordeb ac yn cymell plant, gan ysgogi eu dychymyg a helpu i wella lles disgyblion.